Whiteway

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:47, 4 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hen fws Whiteway yng Nghaernarfon
Bws Bedford OB ger Betws Garmon

Roedd Whiteway yn gwmni bysiau gyda'i bencadlys yn y Waunfawr. O.R. Williams oedd y perchennog. Rhedai deithiau o Gaernarfon i Geunant ac i Feddgelert, ac aeth y daith olaf hon trwy rannau o Uwchgwyrfai rhwng pont dros Afon Gwyrfai yn y Waunfawr hyd at bont arall dros yr un afon ger eglwys Betws Garmon, ac o Lyn Cwellyn nes cyrraedd Rhyd-ddu. Arferai'r cwmni redeg hen fysiau a ddenai lawer o bobl a ymddiddorai mewn bysiau. Daeth y cwmni i ben tua throad y ganrif.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma