Harry Heyes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:26, 10 Rhagfyr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arweinydd bandiau oedd 'Harry Heyes (1894-1963), a aned yn Aspull, Sir Gaerhirfryn. Symudodd i Dde Cymru ym 1917 lle bu'n arwain bandiau pres Caerau, Glofa Aldridge, Glofa Glynderwen a Lydney. Symudodd i ardal Uwchgwyrfai ym 1927, lle bu'n arweinydd proffesiynol sawl band: Llanberis i ddechrau, wedyn Band Pres Dyffryn Nantlle, Band Caernarfon ac, ym 1929, Band Pres Moeltryfan. Mae'n amlwg o'r cofnodion fod gan y bandiau hyn arweinyddionlleol, ond Harry Heyes oedd yn cael ei dalu i arwain y bandiau hyn pan fyddant yn cystadlu. Cafodd nifer o lwyddiannau, gan gynnwys tair wobr gyntaf (bandiau Dosbarth A) gyda Band Dyffryn Nantlle ym 1927; a thair gyntaf (Dosbarth B) ym 1929 gyda Band Moeltryfan. Ymddengys iddo symud yn ôl i Loegr tua 1930, a bu'n arwain rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, yn cynnwys Band Parc a Dâr yn y Rhondda. Cafodd ei wahodd yn ôl unwaith neu ddwy i arwain bandiau Llanberis a Chaernarfon wedi hynny, a hynny ar gyfer cystadlaethau pwysig, ond 1929 oedd y tro olaf sydd wedi ei gofnodi iddo arwain band o Uwchgwyrfai.

Bu Heyes yn parhau i arwain mewn cystadlaethau hyd 1961, a bu farw 21 Ionawr 1963. Yn ystod ei yrfa, roedd wedi arwain bandiau pan gafwyd y wobr gyntaf 53 o weithiau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan "Brass Band Results", [1], cyrchwyd 9.12.2021