Capel Bwlan (MC), Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:29, 24 Hydref 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel y Methodistiaid Calfinaidd ar gyrion pentref Llandwrog yw Capel Bwlan.

Adeiladwyd y Capel o gwmpas 1815 gyda cost o £400 i'w sefydlu. Cafodd ei ail-adeiladu tua 1841[1]. Mae'r Capel yn adnabyddus am y cymanfaoedd canu a fu yno llawer o flynyddoedd yn ôl[2]. Cafodd gwaith ei gomisiynu'n ddiweddarach i adeiladu estyniadau megis galeri, ystabl ac ysgoldy[3].

Dywedir fod y capel lle mae gan nad oedd Ystad Glynllifon yn fodlon roi tir i godi capel oedd o fedwn golwg y pentref a'r eglwys a dyna, meddid, pam nad yw'r capel yn fwy cyfl;eus ar gyfer pobl Llandwrog - er rhaid cyfaddef ei fod yn ganolog ar gyfer holl ffermydd gwaelodion plwyf Llandwrog ac ar gyrion pentrefan Groeslon Ffrwd oedd, o bosibl, yn fwy pwysig gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Cangen o Gapel Bwlan oedd Capel bach y Morfa.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

[[Categori:Capeli]