Llanaelhaearn
Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Fermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Mae plwyf LLanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog-fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Yr eglwys a'i sant
Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Aelhaearn Sant. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er iddi gael ei ehangu mor ddiwddar â 1892.