J. Lloyd Jones, rheithor Beuno Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:44, 21 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheithor holl blwyfi Uwchgwyrfai oedd y Parch. J. Lloyd Jones, (1966-2020). Brodor o Faesteg ydoedd. Graddiodd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac astudiodd ymhellach i hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Wycliffe Hall, Rhydychen. Gwasanaethodd yn Eglwys Dewi Sant, Llanbedr

Pont Steffan; yna yng Nghaerfyrddin, Bro Morgannwg a Llanilltud Fawr. Bu yn Ficer yn y Felinheli, Llanddeiniolen a Phenisa’r-waun cyn dod i ofalaeth Beuno Sant, Uwchgwyrfai i wasanaethu Eglwys Beuno

Sant, Clynnog; Eglwys Sant Twrog, Llandwrog; Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; Eglwys Crist, Pen-y-groes; Eglwys Rhedyw, Llanllyfni ac Eglwys Sant Aelhaearn

Bu farw’r Parchedig J. Lloyd Jones yn sydyn ac yn ddirybudd yn ei gartref, Y Rheithordy, Clynnog, ar 8 Rhagfyr yn 54 oed. Gedy fwlch anferthol ar ei ôl, a chydymdeimlwn yn fawr â’i briod, Y Parchedig Casi M Jones a’i feibion Tomos a Dafydd. Cynhaliwyd gwasanaeth i

ddiolch am ei fywyd ar 21 Rhagfyr yn Eglwys Beuno Sant ac fe’i rhoddwyd i orffwys ym mynwent Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Brodor o Faesteg ydoedd. Graddiodd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac astudiodd ymhellach i hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Wycliffe Hall, Rhydychen. Gwasanaethodd yn Eglwys Dewi Sant, Llanbedr

I'W Parhau