Tafarn y Sportsman, Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:47, 17 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu tafarn o'r enw'r Sportsman ym mhentref Gurn Goch am rai blynyddoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac wedi ei droi'n dŷ ers blynyddoedd maith. Wrth ei ochr mae rhes o fythynnod a elwir yn Sportsman Row o hyd. Roedd y dafarn fel y gwelir mewn lle hwylus ar ochr y briffordd o Bwllheli i Gaernarfon ac mae'n sicr ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn pasio am ei chwsmeriaid, naill ai ar droed, ar gefn ceffylau neu yn y goits fawr, gan ei bod yn anodd credu y gallai lle mor fach â Gurn Goch ei hun gynnal tafarn. Hefyd, wrth gwrs, roedd tafarn fwy a llawer pwysicach ym mhentref Clynnog Fawr gerllaw, sef Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach).

Un a fu'n cadw'r Sportsman am rai blynyddoedd ddiwedd y 1850au a dechrau'r 1860au oedd Robert Evans. Roedd yn enedigol o ardal Dwygyfylchi ac ar ôl gadael y Sportsman symudodd i Glanllyn, Llanaelhaearn, gan ffermio y tyddyn yno a phorthmona cryn dipyn. Er iddo weithredu am gyfnod fel tafarnwr roedd yn grefyddwr ac yn Fethodist pybyr hefyd ac roedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu Capel Babell (MC), Llanaelhaearn. Bu farw ym 1915 ac roedd yn hen hen daid i awdur hyn o lith.

Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai Eben Fardd ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref Bod Gybi), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.[1]

Erbyn Cyfrifiad 1871, Sais o'r enw James Perry, dyn 67 oed yn enedigol o Prescott, Swydd Caerhirfryn oedd y tafarnwr; roedd ei wraig Ann, fodd bynnag, yn hanu o Langristiolus ac yn 25 mlynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt fab, William Perry, 11 oed, a oedd, erbyn 1881 (a'r teulu'n dal yn y Sportsman) yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn - sy'n tueddu i awgrymu fod y Sportsman yn fusnes weddol lewyrchus! Ymddengys James Perry yng nghyfrifiad Clynnog am y tro cyntaf ym 1861 fel "marsiandwr wyau a chywion ieir".[2] Ym 1851 roedd o ag Ann ei wraig o Gymru'n cynnal busnes gwerthu llysiau a ffrwythau yn West Derby, Lerpwl.[3] Bu farw James rywbryd cyn 1891 pan nodwyd yn y cyfrifiad mai ei weddw'n unig oedd yn byw yn y Sportsman, a hithau erbyn hyn tua 70 oed. Mae'n ymddangos hefyd bod y dafarn ei hun wedi cau ac wedi troi'n dŷ i Ann. Roedd hi'n dal yno'n hen wraig 80 oed ym 1901[4]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1861, 1871, 1881
  3. Cyfrifiad West Derby, 1851
  4. Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1891, 1901