New Inn, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:38, 17 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y New Inn yn un o ddwy dafarn Clynnog Fawr. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan oedd hi'n cael ei chyfeirio ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys Bachwen, Graeanog, Melin Bryn-y-gro, Melin Faesog, Coch-y-big a Henbont yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.[1] Erbyn 1832 os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Faron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.[2]

Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dol a thir âr.[3]

I'W PARHAU

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6324
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer Clynnog Fawr