Craig Cwmbychan
Mae mynydd Craig Cwmbychan uchder 1942 troedfedd uwchben lefel y môr, yn edrych dros Cwm Bychan a Betws Garmon. Mae'r mynyd hwn yn ail o ran uchder i gopa Mynyddfor, sydd tua hanner milltir i'r de ohono. Mae Cwm Planwydd ar ei lethrau deheuol, a Chwm Bychan a Chwm Du i'r gogledd. Mae carnedd gron hynafol ar ei gopa, sydd yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd (2300CC-800CC). Credir ei fod yn safle gladdu ac er bod rhywrai wedi bod yn chwilio yno yn y gorffennol, gobaith CADW yw y gall fod dystiolaeth bwysig yno o hyd. Mae'r garnedd yn sefyll tua metr o ran uchder ac 11 metr ar ei thraws.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma