Clynnog Fawr
Mae Clynnog-fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.
Ffiniau a thirwedd
Mae'n gorwedd i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
Yr eglwys a'i sant
Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol agl arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 6g. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm.