Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd
Mae Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.
Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr nmeu anghydffurfwyr eraill oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma