Hen Bandy, Llanllyfni
Mae olion adeilad o'r enw Hen Bandy yn cael ei nodi ger Eglwys Sant Rhedyw yn Llanllyfni ac yn agos at Felin-gerrig. Mae bur sicr felly y bu pandy i drin gwlannen wedi bod yno ar un adeg, a cheir olion ffrwd felin neu binfarch.[1] Mae'n debyg ei bod wedi hen gau erbyn 1889 pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal. Mae olion y pandy'n dal yng nghanol y cae y tu ôl i'r eglwys, ar ganol y llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg o Bont Rectory a'r ffordd fawr i gyfeiriad y ffordd osgoi newydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma