Chwarel Goch
Mae Chwarel Goch yn hen chwarel lechi ar lan orllewinol Llyn Cwellyn. Cynhyrchai lechi glas golau atyniadol, ond wrth cael eu heffeithio gan y tywydd, byddent yn troi'n lliw rhwd, gan eu gwneud yn annefnyddiol ond mewn amgylchiadau arbennig lle deisyfid effaith amrwd a gwledig ar adeilad. Er bod ychydig o dystiolaeth fod y chwarel wedi dechrau trwy i bobl leol weithio ar eu liwt eu hunain yn y 18g., cychwynnodd yr ymdrech gyntaf (ar olaf) i chwarelu yno ar sail busnes sylweddol tua 1860 pan gafwyd caniatâd gan y perchnogion, sef Ystâd Cwellyn, i gloddio yno. Erbyn 1865, roedd cynhyrchu wedi dechrau gyda 88 tunnel yn cael eu hallforio o harbwr Caernarfon. Sefydlwyd cwmni o'r enw Castell Cidwm Quellyn Slate Quarry Co. yr un flwyddyn. Roedd y cwmni hwn yn gyfrifol am Chwarel Cwellyn hefyd.
I'w barhau