Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:09, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni yn sefyll ar lan Afon Llyfnwy ar waelod yr allt sydd yn arwain i fyny'r pentref, gyferbyn ahen adeilad tafarn y Quarryman's Arms. Dytma eglwys plwyf hanesyddol Llanllyfni. Credir fod y safle'n wirioneddol hen fel mangre Gristionogol, ac efallai dyma oedd safle un o'r celloedd neu'r eglwysi cynharaf yr Eglwys Celtaidd, gan fod Rhedyw Sant, sylfaenydd tybiedig yr eglwys, yn ffigwr cynnar yn hanes yr eglwys.

Codwyd yr eglwys bresennol yn y 14g., ac er i'r adeilad gael ei atgyweirio ac i raddau ei ailadeiladu ym 1879, mae waliau corff yr eglwys ynghyd â lleoliad y ffenestri'n dyddio'n ôl i'r 14g (er i'r ffenestri eu hunain gael eu gosod ym 1879). Mae'r gangell a'r darnau croes yn dyddio o ddiwedd y 15g neu ddechrau'r 16g. Mae'r unig feddrod hynafol yn yr eglwys yw bedd Humphrey ap Richard, Pant Du, a oedd yn reithor Llanbeulan, Ynys Môn, 1548-87.

Yr unig ddarn amlwg sydd yn hollol, fodern yw'r porth ar ochr ogleddol corff yr eglwys, sy'n dyddio o'#r gwaith adfer yn 1879 yn ol pob tebyg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau