Bwlch y Gylfin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:16, 17 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bwlch y Gylfin yw'r bwlch rhwng Clogwyn y Garreg a'r Garn y rhed y ffordd drosto rhwng Dyffryn Nantlle a Rhyd-ddu. Bron ar dop y bwlch ar ochr Rhyd-ddu, mae Llyn y Dywarchen a safle'r hen adeilad a ddefnyddid fel lloches i Forafiaid Drws-y-coed. Ar y llethr orllewinol, a'i gefn at y mynydd, mae olion bwthyn Clogwyn Brwnt, cartref Y Brodyr Francis.

Efallai prif hynodrwydd y bwlch fod bynnag yw'r ffaith ei fod yn sefyll rhwng dwy fferm sy'n rhannu'r un enw: Drws-y-coed Isaf a Drws-y-coed Uchaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau