Clogwyn y Barcut

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:00, 15 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clogwyn y Barcut yw enw'r clogwyn uwchben, ac i'r de o, bentref Drws-y-coed, ac ar lethr ogleddol mynydd Y Garn. Ar ei uchaf, mae'r mynydd hwn yn 347 metr uwchben lefel y môr. Yn uchel ar ddwy ystlys y clogwyn y mae olion tyllau treialu am fetelau, sef copr yn fwy na thebyg, yn dyddio'n ôl i ganol y 19g. ar yr hwyraf. Mae'r ddau dwll tua 8 metr o hyd.[1] Mae olion dyfrffos (sef leat yn Saesneg) yn rhedeg o amgylch ochr Clogwyn y Barcut, yn cario dŵr o Afon Gelli-dywyll a Llyn Cwm-y-ffynnon i gronfa ddŵr a grëwyd at ddibenion mwyngloddio yng ngwaelod y cwm ger Drws-y-coed Isaf.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein: [1] a [2]; cyrchwyd 15..2.2021
  2. David Medcalf, nodiadau am lun o'i eiddo (a ddangosir ar y dudalen hon), [3], cyrchwyd 15.2.2021