Cau Tiroedd comin Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:41, 8 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dechreuwyd cau tiroedd comin yng Nghymru mor fuan â diwedd yr Oesoedd Canol; tir y goron oedd llawer o'r tir mynydd yng Nghymru, gyda brenin Lloegr yn ei hawlio fel etifedd y tywysogion Cymreig. Rhoes y naill frenin ar ôl y llall roddion hael o dir y goron i'w gyfeillion, neu werthu peth ohono. Gosodwyd rhannau helaeth o diroedd y goron yn ogystal i landlordiaid a esgeulusai'n fwriadol dalu rhent amdanynt, fel y byddent yn dod yn eiddo iddynt ymhen amser. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd mewn amgáu a meddiannu tiroedd comin yn dilyn diddymu'r mynachlogydd yn ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda thirfeddianwyr yn meddiannu rhai o hen ffriddoedd y mynachlogydd. Yn wir, bu helynt ynghylch cau tir comin yn ardal Clynnog Fawr mor gynnar â 1595. [1] Ond y ddeunawfed ganrif a thri chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd prif gyfnod cau'r tiroedd comin yng Nghymru. Ym 1795 roedd 102,333 acer o dir comin yn Sir Gaernarfon ond erbyn 1895 roedd wedi gostwng i 30,042.

Y prif reswm a roddid dros gau'r tiroedd comin oedd y byddai hynny'n cynyddu cyflenwad bwyd y wlad, ac er fod peth sail i hynny, roedd ar y llaw arall yn amddifadu'r tlodion rhag rhoi eu hanifeiliaid i bori ar y comin a thorri mawn, hel eithin i'w losgi a gweithgareddau o'r fath yr oeddent yn ddibynnol arnynt am eu cynhaliaeth. Roedd y tirfeddianwyr hefyd yn awyddus iawn mewn llawer achos i gael meddiant o'r tiroedd comin oherwydd y cyfoeth o fwynau, megis llechi, plwm, copr etc. a oedd dan y tir.

Yn ogystal â chau tiroedd comin ar ffriddoedd a llethrau'r mynyddoedd, gwnaed llawer o waith hefyd i adennill tiroedd o'r môr a'u sychu. Yr enghraifft amlycaf yn yr ardaloedd hyn oedd codi'r Cob ym Mhorthmadog ac adennill y Traeth Mawr, ond bu gweithredu yn hyn o beth yn Uwchgwyrfai hefyd. Ym 1806 pasiwyd deddf seneddol i sychu dros ddwy fil o aceri ym Morfa Dinlle a chodi cloddiau llanw ac agor ffosydd dyfnion i atal y môr rhag gorlifo dros y tir a'i ddifetha.

Ym 1806 pasiwyd deddf seneddol (a ddiwygiwyd ym 1808) i gau tiroedd comin a thir gwyllt sylweddol iawn ym mhlwyf mawr Llanddeiniolen ac arweiniodd hynny at derfysgoedd a gwrthdaro. Y prif ysgogydd yn hyn o beth oedd Thomas Assheton Smith, sgweier stad Y Faenol, dyn a oedd yn berchen ar rannau sylweddol o diroedd Llanddeiniolen yn barod ac a oedd yn awchu am lawer mwy. Y cyfreithiwr a weithredai ar ran Assheton Smith oedd John Evans, brodor o Nantlle, a oedd â busnes cyfreithiol llewyrchus ym Mhlas Porth-yr-aur yng Nghaernarfon. Olynwyd ef yn y busnes wedyn gan ei nai, Evan Evans.

Y bobl a ddioddefai fwyaf oddi wrth gau'r tiroedd comin oedd y sgwatwyr, a oedd wedi codi tai iddynt eu hunain ar y comin a chlirio a thrin darn o dir o'u cwmpas i'w ffermio. Pan gaeid tiroedd comin y drefn arferol oedd gadael i sgwatwyr a fu yno am dros 20 mlynedd i gadw eu tai a'u tiroedd, ond os byddent wedi bod yno am lai na hynny cymerid y cyfan oddi arnynt a thalu swm eithriadol fychan i'w digolledu am y tai a'r adeiladau. Ni chaent ddim am eu llafur yn codi'r adeiladau a diwyllio'r tir. Bu helynt mawr ar dir comin Llanddeiniolen ym Medi 1809 pan ddaeth John Evans y cyfreithiwr yno gyda chwnstabliaid i geisio dymchwel tŷ heb ei orffen a godwyd gan Ellis Evans, tad Y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy. Taflwyd cerrig, baw a dŵr poeth atynt a galwyd ar yr ynad lleol i ddarllen y Ddeddf Derfysg. Ar gais Assheton Smith daeth carfan o ddragwniaid i'r ardal yn dilyn hyn a charcharwyd rhai o'r tyddynwyr am rai misoedd yng ngharchar Caernarfon. Fodd bynnag, llwyddodd Assheton Smith i grafangu 2,610 o aceri yn ychwanegol at ei diroedd drwy gau tir comin Llanddeiniolen - yn ogystal â'r llechfaen werthfawr odano ar lethrau'r Elidir - ac elwodd rhai tirfeddianwyr eraill hefyd i raddau llai - megis Arglwydd Newborough, Glynllifon, a gafodd 110 acer.

[mae'r erthygl hon yn anorffenedig - i'w pharhau]


Cyfeiriadau

[1] David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, di-ddyddiad), t.12