Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr
Disgrifiwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr fel un o'r rhai mwyaf trawiadol yng ngogledd Cymru o ran maint ac urddas ac yn sicr gellir ei chyffelybu â’r eglwys gadeiriol ym Mangor. Sefydlwyd yr eglwys gynharaf ar y safle oddeutu 620-630 gan Beuno, brodor o Aberriw ym Mhowys a ddaeth gyda'i ddilynwyr i genhadu i ogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru. Credir i’r eglwys gynnar gael ei rheoli gan glas, sef cymuned o fynaich a oedd yn byw ac yn gweithio dan arweiniad abad. Tra oedd rhai o’r brodyr yn grefftwyr a ffermwyr, roedd eraill allan yn efengylu ac yn sefydlu eglwysi eraill.
Adeilad bychan o goed a tho gwellt iddo oedd yr eglwys gyntaf ac mae’r Capel Beuno presennol wedi ei godi ar ei safle. Mae'n debygol iawn i'r eglwys gael ei hailadeiladu a'i helaethu sawl gwaith yn ystod y canrifoedd cynnar o ystyried mor fregus oedd adeiladau pren ac mor hawdd eu dinistrio gan dân a stormydd. Fel llawer o eglwysi eraill o amgylch arfordir Cymru, ymosododd y Llychlynwyr ar eglwys Clynnog ac yn y flwyddyn 978 cafodd ei dinistrio yn ystod cyrch gan fyddin Seisnig a oedd, am ryw reswm, yn cael ei chynorthwyo gan arglwydd Cymreig o'r enw Hywel ab Ieuaf. Darganfuwyd sylfeini adeiladau cynharach o dan y capel presennol, lle tybir y claddwyd Beuno.
Dechreuwyd adeiladu’r eglwys bresennol rhwng 1480 a 1486 a gwnaed ychwanegiadau pellach iddi rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae ar gynllun croesffurf gyda thŵr gorllewinol. Cysylltir Capel Beuno â’r eglwys gan goridor bychan gyda chrawiau cerrig yn do iddo. Adwaenid hwn fel y Rheinws oherwydd iddo gael ei ddefnyddio fel carchar am noson neu ddwy i fân droseddwyr hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhannau diweddarach o’r eglwys yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaed atgyweiriadau pellach yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Mae gan yr Eglwys hefyd sgrin gerfiedig wyth bae sy’n dyddio o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ac yn gwahanu'r gangell oddi wrth gorff yr eglwys. Yn y gangell ceir pedair ar ddeg o seddau cerfiedig o'r bymthegfed ganrif ar gyfer y côr. Roedd y misericordiau ar eu gwaelod yn galluogi’r brodyr i bwyso arnynt yn ystod y gwasanaethau meithion. Mae'n debyg fod y sgrîn, neu groglen, a rhannau eraill o'r ffitiadau coed wedi eu gwneud gan yr un seiri arbennig o grefftus a weithiodd ar Eglwys Gadeiriol Bangor dan yr Esgob Skeffington yn yr un cyfnod. Roedd y rheiny'n rhai arbennig a ddaeth o Loegr i gyflawni'r gwaith, gan fod yr arddull yn Seisnig yn hytrach na chynhenid. Mae'r pulpud yn yr eglwys yn dyddio o ddechrau'r ddeunawfed ganrif.
Yn yr eglwys hefyd mae cist, neu Gyff Beuno fel y’i gelwir yn lleol. Cafodd y boncyff onnen hwn ei gafnu yn ystod yr oesoedd canol a’i gryfhau gyda dau strap haearn. Ychwanegwyd tri chlo yn ystod yr unfed neu’r ail ganrif ar bymtheg. “Cystal i chi geisio torri Cyff Beuno” yw’r dywediad lleol pan geisir cyflawni tasg go anodd. Pwrpas y cyff oedd derbyn offrwm y pererinion tuag at gynnal yr adeilad a’r arian a dderbynnid pan werthid gwartheg nodedig gyda nod Beuno arnynt, sef hollt yng nghlust yr anifail
Un o hynodion y fynwent yw’r Cloc Haul Clynnog-fawr sydd yn dyddio o’r 9fed-12fed ganrif a hyd y gwyddys dim ond un enghraifft arall o’i fath sydd yng Nghymru gyfan. Mae wedi ei rannu’n bedwar ar gyfer oriau a gwasanaethau’r clas. cafwyd hyd iddi ar dir Llyn-y-gele a'i symud i (neu yn ôl i) fynwent yr eglwys.
Tyfodd enwogrwydd Beuno yn ystod y canrifoedd yn dilyn ei farwolaeth, fel y datblygodd ei eglwys i fod yn gyrchfan pererinion ynddi’i hun, yn ogystal â bod yn arosfa bwysig ar y daith i Enlli. Awgrymodd E.G. Bowen y dylid ystyried Beuno fel nawddsant Gogledd Cymru oherwydd nifer yr eglwysi a chapeli sy’n dwyn ei enw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma