Melin Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:27, 4 Ionawr 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'n debyg yr oedd Melin Nantlle yn sefyll ar un o lednentydd Afon Llyfni, rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi. Mae map degwm 1840 yn dangos cae o'r enw "Wern felin" ac adeilad bach yn ei gornel, gyferbyn â lleoliad Barics Pen-yr-orsedd heddiw ar dir a oedd yn eiddo i Plas Nantlle.[1] Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani ychwaith. Mae nant fechan yn rhedeg i lawr o'r chwarel yn agos at y safle heddiw, ac mae'n bosibl mai hon oedd yn troi'r felin - neu efallai bod pinfarch neu nant y felin wedi ei hadeiladu o'r Afon Garth i sicrhau mwy o ddŵr. Gerllaw'r bont neu gwlfert dros y nant honno mae adeilad a fu unwaith yn siop a elwid yn Siop y Felin.

Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 [2] a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.[3] Gan mai sôn am felinydd yn benodol mai'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.

Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, oedd yn sefyll ar, neu ger, safle Llys Baladeulyn, sef llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad Uwchgwyrfai cyfan.[4] Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn perchen ar felin a mynnu foid pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog
  2. Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778
  4. John Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012