Mynydd Drws-y-coed
Mae Mynydd Drws-coed yn un o fynyddoedd Crib Nantlle, rhwng copa Trum y Ddysgl a chopa Y Garn. Saif yn union i'r de o pentref Drws-y-coed, a thu milltir i'r de o'r pentref hwnnw. Mae llethr y mynydd sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei alw'n Glogwyn Marchnad, enw anodd i'w esbonio yn y fath safle; mae Cwm Marchnad ym mhlwyf Beddgelert yn rhan o lethrau dwyreiniol y mynydd. Ei uchder yw 695m (2281 troedfedd).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma