Melin Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:39, 22 Rhagfyr 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'n debyg yr oedd Melin Nantlle yn sefyll ar Afon Llyfnwy, rhywle lle tyllwyd wedyn am lechi ar waelod y dyffryn efallai ger Plas Tal-y-sarn, ond yn bur sicr ar dir a oedd yn eiddo i Plas Nantlle. Erbyn hyn mae pob cof amdani wedi pallu a dim sôn ar fapiau amdani ychwaith. Ceir sôn am Felin Nantlle yn gysylltiedig â'r Plas mewn gweithred dyddiedig 1771 [1] a sonnir am felinydd yn Nantlle, gyda chyfeiriad penodol at "William Thomas, miller, of Nantlle Mill" yng nghofrestr y plwyf ym 1778.[2] Gan mai sôn am felinydd yn benodol mai'r cofnod, gellir yn deg casglu mai melin flawd oedd Melin Nantlle.

Rhaid cofio bod Plas Nantlle, neu Tŷ Mawr Nantlle, oedd yn sefyll ar, neu ger, safle Llys Baladeulyn, sef llys y tywysogion Cymreig yn y cylch os nad Uwchgwyrfai cyfan.[3] Byddai'n naturiol fod yr arglwydd yn perchen ar felin a mynnu foid pawb yn y fro yn gorfod ei defnyddio.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/1923
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1778
  3. John Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012