Harbwr Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 16 Rhagfyr 2020 gan 78.144.94.239 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Harbwr Trefor 2020

Harbwr Trefor yw'r unig le, ar wahân i ddoc preifat Caer Belan, o ffewn ffiniau Uwchgwyrfai lle ceir cyfleusterau docio cychod. Am dynnu am gan mlynedd, bu Harbwr Trefor yn brysur iawn fel man allforio ithfaen Chwarel yr Eifl, gyda chychod stém yn cario'r cerrig i ffwrdd, yn bennaf i ogledd Lloegr. Mae'n dal i roi lloches i ambell i gwch pysgota a chwch hwylio. Yn wreiddiol, morglawdd o gerrig a gysgodai'r harbwr a gweithredu fel glanfa, ond ym 1912, adeidsdwyd y Cei Pren; er i hwnnw gael ei adnewyddu ym 1986, erbyn 2018, roedd yn beryglus ac fe'i chwalwyd gan gontractwyr arbenigol Commercial Boat Services. Erbyn hyn, y morglawdd cerrig yw'r unig lanfa ar wahan i'r traeth, ond prin bod angen cyfeusterau bellach, a'r chwarel wedi hen gau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma