Y Mabinogi

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:10, 6 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

"Y Mabinogi" yw'r enw a roddir yn benodol i bedair o chwedlau llafar Cymreig neu Geltaidd sydd yn mynd yn ôl i ddyddiau cynharaf ein hunaniaeth fel cenedl. Cyfeirir at y rhain y aml fel Pedair Cainc y Mabinogi. Mae'r term Y Mabinogion yn derm nas ceir yn y llenyddiaeth gynnar ond unwaith (ar ddiwedd hanes Pwyll) ond fe'i mabwysiadwyd gan Y Fonesig Charlotte Guest fel teitl i'w gwaith pan gyhoeddodd gyfieithiad Saesneg arloesol o'r chwedlau hyn yn gynnar yn y 19g. [1]

Er bod yr hanesion yn sôn am lawer i ran o Gymru, mae rhan helaeth o gynnwys Pedwaredd Gainc y Mabinogi yn cyfeirio at Fôn, Arfon a Meirionnydd, ac mae Uwchgwyrfai yn frith o enwau lleoedd sydd yn cyfeirio at gymeriadau a lleoedd sydd yn ymddangos yn y chwedlau: enwau megis Caer Arianrhod, Dolbebin, Maen Dylan ac ati.

Am fwy o fanylion gweler yr erthygl ar Mabinogion.


Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’, (Caerdydd, 1986), t.385