Melin y Bont Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:43, 13 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin y Bont Newydd oedd enw arall a arferid yn lleol ar Felin Bodellog yn y 17g., pan oedd achosion llys ynglŷn âhawliau perchnogion y felin. Gweler dan yr enw hwnnw am fanylion pellach. Fe alwyd yn Felin-y-groes hefyd. Fe godwyd fel melin yr Arglwydd yn y Ganol Oesoedd, ond roedd wedi diflannu, mae'n debyg erbyn blynyddoedd cynnar y19g.[1]

Codwyd melin newydd yn Y Bontnewydd ddechrau'r 19g. gan bedwar o ddynion yn cynnwys Morris neu Morus Roberts.[2] Melinydd oedd Morris wrth ei alwedigaeth. Yn ei ewyllys dyddiedig 1823, mae'r Parch. Evan Richardson, gweinidog gyda'r Calfiniaid yn nhre Caernarfon, yn nodi ei fod yn un bump prydlesddaliwr y felin, ac wedi iddo farw ym 1825, roedd ei restr eiddo'n nodi mai gwerth ei gyfran o oedd £100, sef hanner ei holl gyfoeth.[3] Mae hyn yn rhoi rhyw argraff o ba mor werthfawr oedd hawliau a chyfarpar malu grawn.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t. 125.
  2. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dogfennau Profiant Bangor, B/1825/104/W ac I