Chwarel Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:20, 1 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn, (SH 499532).

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, a gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Tal-y-sarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai at Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle tua 1829. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ôl cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ôl gwraig Richard Garnons. Daeth prydles Garnons i ben ym 1848, a chymerodd nifer o chwarelwyr unigol a phobl leol eraill gyfranddaliadau yn y chwarel Ymysg y rhain oedd John Jones, Tal-y-sarn a fu am sbel yn reolwr ar y chwarel. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Gwerthwyd y cyfranddaliadau hynny ym 1853 i John Williams a ddaeth yn y man i gael digon fel y gallai rheoli'r cwmni. Bu teulu Willims yny sefyllfa honno hyd nes i'r chwarel gau.

Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agored. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Ben-y-groes. Yn y gyfrol o farddoniaeth Cerddi'r Ddrycin gan O. Madog Williams, [1] dyma'r cyflwyniad a geir i'r gerdd Ifan Jos, tud 41: Labrwr yn Chwarel Dorothea, lle mae tri thwll - Twll Coch, Twll Bach a Thwll Ffiar.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd Chwarel Pen-y-bryn ym 1894; Chwarel 'South Dorothea' ym 1921 a Chwarel Gallt-y-fedw ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle, ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu Cangen Nantlle o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. William Pleming oedd y rheolwr olaf, ac erbyn hynny, Michael Wynn Williams oedd y perchennog.[2] Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd y cynlluniau. Mae holl gofnodion manwl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [1].

Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd Chwarel Cilgwyn i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro Afon Llyfnwy a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef Llyn Nantlle Isaf, er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.[3]

Ymweliad myfyrwyr â Dorothea

Nid yn anfynych ceid grwpiau o fyfyrwyr yn ymweld â chwareli llechi'r Dyffryn, er mwyn astudio'r ddaeareg. Un criw aeth yno oedd myfyrwyr o Brifysgol Bryste ym 1957, a'r hanesydd a daearyddwr Philip Lloyd yn eu mysg. Ymhen blynyddoedd, cofnododd ei brofiadau yn Y Casglwr:

...A chawsom gyfle i gael cip ar y diwydiant llechi drwy ymweld â Chwarel Dorothea.  Erbyn hyn, gall twristiaid haf brynu cofroddion sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi —   mewn siopau crefft neu wrth ymweld â mannau fel Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog neu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, megis coasters i’w rhoi o dan fygiau...  Er nad fel twristiaid cyffredin y bu myfyrwyr o Adran Daeareg Prifysgol Bryste yn ymweld â Chwarel Dorothea ym 1957, cawsom yr un profiad o ryfeddu at sgiliau’r gweithwyr yn hollti’r llechfaen yn llechi toi a gwylio’r llafnau mecanyddol yn eu torri i’r mesuriadau gofynnol. Dwn i ddim a fydd ymwelwyr â Llechwedd a’r Amgueddfa Lechi yn cael cynnig

esiamplau bach o lechi i’w hatgoffa o’r profiad. Ond dyna a gefais i (a phob aelod arall o’r dosbarth, mae’n debyg). Fe’i trysoraf hyd heddiw, nid yn unig i gofio am y dwylo medrus yn trin cŷn a gordd, ond hefyd i werthfawrogi’r gwasanaeth arbennig a gefais gan y Post Brenhinol yn ddiweddarach.... Teimlwn ei bod yn bryd imi anfon neges adref at fy rhieni.... Ond beth am ddefnyddiau ysgrifennu? Roedd gen i ddigon o bapur ond dim amlenni. Felly, beth am brynu cerdyn post...? Tua 5 modfedd wrth 3 modfedd yw mesuriadau cerdyn post. Dyna union faint fy esiampl o gynnyrch Chwarel Dorothea! Wrth edrych arno, cefais weledigaeth: beth am droi’r llechen yn gerdyn post? Euthum ati ar fy union i sgrafellu’r neges ar un ochr a'r cyfeiradar y llall... Yna i mewn â mi i Swyddfa Bost. Beth fyddai ymateb y swyddog i’m cais anghyffredin? Cynigais y ‘cerdyn post’ rhwymedig ’ iddo i’w bwyso a'i brisio, yna ei dderbyn ’nol ganddo fel pe bai’n trin eitemau fel hyn bob dydd.

Mae’n debyg bod arbenigwyr yn medru adnabod cynnyrch ardaloedd chwarelyddol y Gogledd yn ôl y gwahaniaethau yn eu lliw. Ond weithiau ceir nam yn y lliw oherwydd amhurion. A nam felly oedd ar ddarn arall o lechen a godais oddi ar y llawr yn Chwarel Dorothea. Yn fy nychymyg, fe’i gwelais yn debyg i aderyn yn gafael yn dynn mewn

brigyn... Wedi dal yr aderyn, roedd rhaid rhoi enw arno. Yn ystod y tymor dilynol cynhaliwyd wythnos ‘rag’ y Brifysgol... Ymhlith campau'r flwyddyn honno roedd ymgyrch i blastro’r ddinas gyda labeli glud yn dwyn y gair cyfrin ‘Throtch’. Y bwriad oedd gorfodi’r dinasyddion i geisio dyfalu beth oedd ei ystyr (os ystyr), mae’n debyg. A dyna’r enw a roddais i’m haderyn dychmygol llechog...

Cawsom ni’r myfyrwyr ein tywys o gwmpas Chwarel Dorothea gan y rheolwr croesawgar ym 1957. Doeddwn i ddim yn ei adnabod ar y pryd. Ond daeth Mr William Pleming yn berthynas pell imi drwy briodas yn ddiweddarach, a chefais gyfle i’w hysbysu am hanes y “cerdyn post’ a aeth yn ddiogel i ‘Bargoed, Glam., South Wales’ ac am yr aderyn dychmygol.[4]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Newtown Welsh Outlook Press, Ail Argraffiad 1937, (gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a gair gan R. Williams Parry)
  2. Gwybodaeth gan fab William Pleming
  3. Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), passim a Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.
  4. Philip Lloyd, Chwarel a Chofroddion: Hanes Myfyriwr Mentrus (Y Casglwr, ), t.3