Afon y Bala

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:19, 20 Tachwedd 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon y Bala oedd yr hen enw ar y pwt o afon rhwng Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf. Rhan o Afon Llyfnwy ydyw, ond ar dafod leferydd, Afon Drws-y-coed oedd enw'r afon rhwng ei tharddiad a'r llyn uchaf, ac Afon Llyfnwy a ddefnyddid ar gyfer yr afon wedi iddi arllwys o'r llyn isaf. Bala yw'r enw am y man lle llifa afon o lyn neu lle mae dau lyn yn cyfarfod, e.e. Llyn Padarn a Llyn Peris yn Llanberis.

Lle aeth Afon y Bala i'r llyn isaf yr oedd trobwll, ac yn y fan beryglus honno yr arferai plant pentref Nantlle fynd i nofio yn ystod yr haf.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]