Afon Tŷ Coch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:13, 2 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Tŷ Coch yw'r afonig sydd yn llifo allan o Lynnoedd Cwm Silyn ac yn anelu ar draws Ffridd Faen yn syth tua'r gogledd cyn pasio i'r dwyrain o Tŷ Coch sydd ar y ffordd newydd rhwng Tal-y-sarn a Nantlle. Arferai redeg i mewn i Llyn Nantlle Isaf ond heddiw yn ymuno ag Afon Llyfni.[1]

Defnyddid dwr o'r afon am gyfnod hir yn y 19-20gg. i droi peiriannau Chwarel Gwernor a bu'r hawliau i'r dŵr yn cael eu trafod mewn achos ym Mrawdlys Caer rhwng y chwarel honno a Chwarel Tŷ'n-weirglodd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Yr Herald Cymraeg, 12.3.1907, t.8