Afon Garth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:45, 4 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon fechan sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf yw Afon Garth. Dyma'r afon sy'n llifo dan Bont Baladeulyn yng nghanol pentref Nantlle. Mae un blaen-nant yn codi gerllaw Parc Colling ym mhen draw Y Fron, tra bod y brif nant yn codi yn Llyn Ffynhonnau uwchben Caeronwy ac yn llifo i lawr dyffryn bach bas heibio i ffermydd Caeronwy a Phen-y-garth.[1] Mae'r afon yn diflannu dan dipiau gwastraff Chwarel Pen-yr-orsedd ac mae rhai yn galw rhan uchaf yr afon yn Afon Caeronwy, a dim ond y darn pan ddaw i'r golwg o'r tipiau ger pentref Nantlle yn Afon Garth.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans, Arolwg 1888
  2. Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [1]