Llyn Ffynhonnau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:37, 7 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llyn Ffynhonnau gyda llethrau Mynydd Mawr ar y dde

Llyn Ffynhonnau yw tarddiad Afon Garth sydd yn rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Mae'r llyn mewn pant bach ar waelod llethrau gorllewinol Mynydd Mawr neu'r "Mynydd Grug", i'r dde o'r bwlch sydd yn croesi o bentref Y Fron i Glogwyn Cellog a Betws Garmon. Yn groes i lawer o lynnoedd Eryri, nid yw hwn yn llyn a ffurfiwyd ar ddiwedd Oes y Iâ mewn cwm rhewlifol, ond yn hytrach yn llyn mewn pant yn y mawndir. Ym 1888, roedd yn ymestyn dros 5.3 o erwau.

Ar un adeg, fel mae'n ymddangos ar fap Ordnans 1888, roedd y llyn yn ymestyn dros fwy o dir ac arochr dde-orllewinol y llyn mae clawdd neu sarn ar draws y man lle mae Afon Garth yn llifo o'r llyn, er bod peth tir rhwng y clawdd a'r llyn ei hun erbyn hyn. Gellid cymeryd bod hyn yn arwydd o greu dam isel ar un adeg er mwyn dargyfeirio dŵr i chwarel gerllaw, neu gadw'r tir islaw yn sych er nad yw'r pwrpas yn eglur erbyn heddiw. Cerrig lleol ac nid llechi wedi eu cloddio sydd yn y cladd, sydd yn awgrymu nad y chwareli oedd wedi ei godi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]