Melin Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:47, 22 Rhagfyr 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sonnir am Felin Llifon mewn llyfr rhenti o eiddo plwyf Clynnog Fawr dyddiedig 1865. Roedd yn rhan o ddaliad fferm Tŷ Mawr sydd ym mhen mwyaf gogleddol plwyf Clynnog, o dan waliau Plas Glynllifon. Roedd cored ar Afon Llifon y tu fewn i waliau parc Glynllifon, ychydig i'r de-orllewin o adeiladau Plas Newydd (Llandwrog), ac o'r gored honno yr oedd pinfarch neu ffrwd y felin yn arwain o dan y ffordd fawr ac i adeiladau fferm Tŷ Mawr, (Llandwrog). Ym 1865, William Griffith oedd tenant y fferm oedd yn ymestyn i 107 acer, ac yntau hefyd oedd yn denant y felin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma