Llanwnda (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:57, 28 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn ffurfioli ffiniau plwyfi yn y 15-17g., roedd Uwchgwyrfai wedi ei rannu'n nifer o "drefi" neu drefgorddi, ac un o'r rhain oedd Llanwnda. nid ddylid, serch hynny, cymysgu ffiniau trefgordd LLanwnda efo'r plwyf diweddarach, gan fod y plwyf yn helaethach o lawer. Roedd trefgordd Llanwnda, weddol fach, yn fras o gwmpas ardal yr eglwys ei hun, gyda threfgordd Bodellog i'r gogledd a therfgorddi Rhedynog Felen a Dinlle i'r de a'r dwyrain.

Yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n gorfod talu gwrogaeth ac ardrethi i'r arglwydd lleol (sef y Tywysog), neu os oedd yr arglwydd wedi dewis trosglwyddo ei hawliau ar yr ardal, i'r sawl (abaty fel arfer) a oedd yn cael y budd o'r trosglwyddiant. Yn achos trefgordd Llanwnda, fodd bynnag, roedd yr esgob ym Mangor yn arglwydd arni ac yn derbyn pob budd a thaliad. Nis enwir Llanwnda yn Stent Uwchgwyrfai 1352, ond fe gynhwysir yn y gyfrol argraffedig, Record of Caernarvon,[1] stent ychydig yn gynharach (o 1335 yn ôl pob tebyg) o diroedd yr Esgob, ac yn y fan honno ceir manylion am dirdaliadaeth trefgordd Llanwnda. Ceir rhai manylion am yr incwm a geid o drefgorddi ym meddiant yr esgobaeth, yn cynnwys Llanwnda, mewn stent o eiddo bydol yr esgobaeth adeg farwolaeth yr Esgob John Swaffham ym 1398; mae'r stent hwn hefyd wedi ei argraffu yn y Record of Caernarvon.[2]

Cyfieithiad o Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor, 1335

D.S. Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Ladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Cyfieithiad rhydd sydd ar gael yma. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiynau Lladin gwreiddiol lle bo'n ymarferol.

Ni cheir isod ond y rhan o Stent 1335 sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai, sef trefgordd Llanwnda.

Cantref Arfon
 Stent o Gwmwd Arfon a wnaed yn Llanbeblig ddydd Iau bymtheg diwrnod wedi [Gŵyl] Sant Mihangel yn chweched blwyddyn teyrnasiad tywysogaethol y Tywysog Edward. [1335] 
....
LLANWNDA
Mae Goronw’r caplan, Einion ei frawd, Cyfnerth eu brawd, Adaf ap Madog, Madog ei frawd, Gwion ap Cyfnerth, Madog ap Adaf, Gwenllian ferch Gwion, Dafydd ap Cyfnerth, Cyfnerth ei frawd, Llywarch ap Einion, Madog ap Iocyn, Adda ap Cyfnerth, Madog ei frawd, Cyfnerth ap Cad’, a Madog ap Cyfnerth yn dal 18 preswylfa a 12 bufedd o dir rhydd. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c.
Mae Gwyn ap Heilin, Goronw ei frawd, Heilin ap Heilin, Cyfnerth ap Einion, Ieuan ei frawd, Goronw ap Iocyn, Goronw ap Madog, Madog ap Cynwrig a Iorwerth ei frawd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].[3]
Mae Heilin ap Ieuan, Philip ap Iocyn, Cad’ ei frawd, Ieuan eu brawd, Ieuan ap Tegwared, Iorwerth ap Dafydd ac Ieuan ap Dafydd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod. [sic].
Mae Goronw Fychan, Madog ap Iorwerth, Madog ap Cynddelw, Madog ap Goronw, Adda ap Goronw ei frawd, Mabli ferch Cad’, Efa ei chwaer, Elen ferch Madog, Hag’ ei chwaer, Ieuan ap Philip, Einion ap Madog, Dafydd Rwth, Iocyn ei frawd, Goronw ap Adda, Tegwared ap Meurig, Ieuan ap Madog [?]o’r un gwely[4] yn dal 17 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn, Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Philip ap Cwellyn yn dal un breswylfa a 12 bufedd o dir. Ac mae o’n cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 1c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Cyfanswm 23s.3c., un rhan ar gyfer tymor yr Holl Saint [sef] 13s. 4c., ac ar gyfer tymor y Disgyblion Philip a Jâms, 9s. 11c.
....
RHAI Y RHODDWYD TENANTIAETH IDDYNT (Tenantiaid Adfowri).
‘’’’
Yn nhrefgordd Llanwnda, y mae 11 tenant sydd wedi cael tenantiaeth trwy adfowri [sef nid trwy etifeddiaeth]. Ac maent yn cyflwyno 22c. adeg Gŵyl yr Holl Saint.


Cyfieithiad o Stent Eiddo Bydol Esgobaeth Bangor, 1398

D.S. Cyfeithiad o rannau perthnasol yn unig o'r stent sydd yma, ac mae'n gyfieithiad rhydd. Gweler y nodyn uchod am gyngor ynglŷn â'i defnyddio mewn cyd-destun academaidd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau}]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.95-7
  2. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), t.332.
  3. Nid yw manylion y dyletswydau ac ardrethi hyn i'w gwely yn uwch i fyny yn y ddogfen wreiddiol. Mae'n bosibl felly fod y ddogfen sydd wedi goroesi heb gynnwys yr holl fanylion.
  4. " De vno lecto " yn y Ladin wreiddiol. Mae lectus = gwely, sef "bed" yn Saesneg a dichon mai dyna ymdrech y clercod i gyfieithu'r gair gwely, sef enw tir dan denantiaieth etifeddol