Llanwnda (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:52, 27 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn ffurfioli ffiniau plwyfi yn y 15-17g., roedd Uwchgwyrfai wedi ei rannu'n nifer o "drefi" neu drefgorddi, ac un o'r rhain oedd Llanwnda. nid ddylid, serch hynny, cymysgu ffiniau trefgordd LLanwnda efo'r plwyf diweddarach, gan fod y plwyf yn helaethach o lawer. Roedd trefgordd Llanwnda, weddol fach, yn fras o gwmpas ardal yr eglwys ei hun, gyda threfgordd Bodellog i'r gogledd a therfgorddi Rhedynog Felen a Dinlle i'r de a'r dwyrain.

Yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n gorfod talu gwrogaeth ac ardrethi i'r arglwydd lleol (sef y Tywysog), neu os oedd yr arglwydd wedi dewis trosglwyddo ei hawliau ar yr ardal, i'r sawl (abaty fel arfer) a oedd yn cael y budd o'r trosglwyddiant. Yn achos trefgordd Llanwnda, fodd bynnag, roedd yr esgob ym Mangor yn arglwydd arni ac yn derbyn pob budd a thaliad. Nis enwir Llanwnda yn Stent Uwchgwyrfai 1352, ond fe gynhwysir yn y gyfrol argraffedig, Record of Caernarvon,[1] stent ychydig yn gynharach (o 1335 yn ôl pob tebyg) o diroedd yr Esgob, ac yn y fan honno ceir manylion am dirdaliadaeth trefgordd Llanwnda.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau}]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.95-7