Uwchgwyrfai
Mae Uwchgwyrfai yn un o gymydau (neu israniadau gweinyddol) hynafol Sir Gaernarfon (a thywysogaeth Gwynedd cyn hynny) er nad yw'n bodoli fel uned weinyddol bellach.
Ystyr yr enw yw 'y tir yr ochr draw i'r afon Gwyrfai', a hynny oherwydd iddo fod yr ochr draw o safbwynt y llys yn Abergwyngregyn. Y rhan o dir oedd yn agosach at y llys oedd Isgwyrfai, sef y plwyfi i'r gorllewin o Landygái a Phentir, sef Llanddeiniolen, Llanfair-isgaer, Llanberis, Llanrug, Llanbeblig, Llanfaglan a Betws Garmon.
Ffiniau
Mae i'r cwmwd bum plwyf, sef Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Ynghyd â chwmwd Is-gwyrfai a thiroedd yr Esgob, sef Maenol Bangor, fe ffurfiwyd Cantref Arfon, sef un o'r prif ranbarthau gweinyddol o dan y Tywysogion.
Yn wreiddiol fe ddilynai ffin y cwmwd glannau de-orllewinol yr afon Gwyrfai o'r môr hyd ei tharddiad yn Llyn y Gader i'r de o Ryd-ddu, gan gynnwys rhan orllewinol y pentref hwnnw. Fe gollwyd peth tir i blwyf Betws Garmon ym 1888, sef yr holl dir ym mhlwyf Llanwnda i'r dwyrain o grib y mynyddoedd ac ar hyd yr Afon Gwyrfai rhwng Waun-fawr a Rhyd-ddu. Serch hyn, yn dechnegol, rhan o Uwchgwyrfai yw'r ardal honno hyd heddiw.
Bu i un arall o blwyfi Uwchgwyrfai, sef Clynnog-fawr, golli tir; yn achos y plwyf hwnnw i blwyf Dolbenmaen yn gynnar yn y 20g. Yn wreiddiol, cynhwysai Clynnog-fawr yr ardal o gwmpas Pant-glas a bron hyd at bentref Bryncir. Mae Derwin Bach wedi bod yn Eifionydd erioed, ond y nant i'r gogledd y tŷ oedd y ffin hanesyddol, gyda Derwin Fawr ym mhlwyf Clynnog. Ar fapiau cynnar yr Arolwg Ordnans, fe'u gelwir yr ardal o gwmpas Pant-glas yn Glynnog Uchaf, (neu, yn unol ag arferion Seisnig mapwyr y cyfnod, Upper Clynnog).
Mae erthyglau yng Nghof y Cwmwd yn cynnwys y rhannau hynny o blwyfi Clynnog-fawr a Llanwnda a gollwyd.
Hanes fel Uned Weinyddol
Mae'r drefn cymydau a chantrefi'n mynd yn ôl i Oes y Tywysogion ac mae'n glir o Gyfraith Hywel fod y cymydau'n bodoli fel unedau dros fil o flynyddoedd yn ôl, gyda'u llysoedd a'u hynadon eu hunain.
Fe barhaodd y system hon o ran gweinyddu wedi i'r dywysogaeth gynhenid gael ei ddileu gan Frenhinhoedd Lloegr, ond dan y Deddfau Uno (1536 a 1543), ffurfiwyd trefn newydd o weinyddu sifil, gan ddileu olion yr hen drefniadaeth. Sefydlwyd llysoedd ar batrwm Lloegr, gydag ynadon yn gyfrifol am nifer cynyddol o ddyletswyddau sifil, megis cynnal y ffyrdd, gofalu bod y plwyfi'n edrych ar ôl eu tlodion, trwyddedu tafarnau ac ati. Er hwylustod mewn oes pan oedd teithio unrhyw bellter yn faich ar ddyn, rhaid oedd rhannu'r siroedd, a chadwyd at ffiniau'r hen gymydau, er yr oedd tuedd cynyddol i'w galw'n hyndrydau, neu hundreds, yn ôl yr arfer Seisnig. Mae cofnodion Llys Chwarter Sir Gaernarfon, sydd wedi goroesi o 1541, yn llawn o gyfeiriadau at "Uchgor'", sef Uwchgwyrfai. Mae'r enwau cynharaf a geir yn y cofnodion hyn am swyddogion y cwmwd yw Thomas Gruffydd a Huw Lewys, cwnstabliaid y cwmwd a Hywel ap Dafydd ap Llywelyn, beili'r cwmwd ym 1546-7. Nid oedd y swyddi hyn, a lanwyd gan drigolion lleol heb dâl, yn gallu bod yn beryglus: ymosodwyd gyda cleddyf ar un o gwnstabaliaid y cwmwd, Owen Davies, gan nifer o drigolion Clynnog-fawr ym 1553, nes bod dau o'i fysedd bron wedi torri i ffwrdd. Parhaodd cynulliadau o drigolion a mân swyddogion y cymydau hefyd gwrdd mewn 'llysoedd' sifil, dan oruchwyliaeth siryf y sir. Ceir cofnod o un llys ar gyfer Uwchgwyrfai a gynhaliwyd 5 Rhagfyr 1654 yn nhafarn Betws Gwernrhiw.
Defnyddid enw Uwchgwyrfai i ddynodi rhaniad o'r sir pan oedd angen hyd nes i'r cynghorau dosbarth gael eu ffurfio ym 1894. YN gynyddol, fe ddisgrifiwyd Uwchgwyrfai (neu Uchgorfai fel y sillafid yr enw'n arferol) fel hundred or division o'r sir, ac yr oedd gan y cwmwd ei uchel gwnstabl ei hun hyd y 19g.
Ffynonellau
- Mapiau Ordnans 6" i'r filltir yr ardal I'w cyrchu ar [1]
- Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (Gomer, 1970), tt.65, 91, 97.
- Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units, (Gwasg y Brifysgol, 1969), passim.
- W Ogwen Williams, A Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records, 1541-1558, (Cym. Hanes Sir Gaernarfon, 1956), tt. lxix, 31-2, 124.