Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:57, 10 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dinlle oedd enw trefgordd fwyaf Uwchgwyrfai.

Yr ardal yn ddaearyddol

Dinlle oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi Llandwrog a Llanwnda. (Trefgorddi eraill a orweddai yn ardal y plwyfi hynny oedd Bodellog a Rhedynog Felen). Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.[1] Hefyd fe nododd W. Gilbert Williams fod un rhan o ddeg o Wely Wyrion Iorwerth y tu hwnt i ffiniau Uwchgwyrfai, sef yn nhrefgordd Treflan, neu (yn ôl enwau heddiw) y Waun-fawr, tra oedd y naw rhan o ddeg arall o fewn ffiniau Uwchgwyrfai.[2] Roedd pedwar gwely arall a orweddai'n bennaf yn Isgwyrfai, sef Gwely Cynwrig ap Tregir, Gwely Pyll ap tregir, Gwely Ednowain ap Tregir a Gwely Cyfnmerth ap Tregir, ond oedd â rhywfaint o dir o fewn ffiniau Dinlle yng ngwmwd Uwchgwyrfai, a achosai rywfaint o ddryswch ym mha gwmwd yr oedd gofyn i ddeiliaid y gwelyau hyn dalu eu trethi.[3]

Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon

Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.

Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wyskyed; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.[4]

Cyfieithiad

DINLLE
Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgied, Gwely Hebogothion a Gwely Bowynied.
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion y gwely dywededig Gwely Wyrion Einion. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion y dywededig Wely Wyrion Morgeneu. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion y dywededig Wely Wyrion Rhawd. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion y dywededig Wely Wyrion Ystrwyth. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y dywededig wely a elwir Gwely Wisgied. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]
A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Hebogothion. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b. 
Ac yn y gwely uchod a elwir Gwely [Wyrion] Ystrwyth y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Bodwyniod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir Gwely Wyrion Iorwerth sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn Gwely Cynwrig ap Tregir yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn. Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn Gwely Pyll ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.
Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir Gwely Ednowain ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c. 
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. dâl a arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c. 
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir Gwely Cyfnerth ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc  yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.
Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.
Cyfanswm tir siêd, twnc a chnhaliaeth y Faenor 10s.3c.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Welsh Administrative and Territorial Units, Melville Richards (University of Wales Press) 1969
  2. W.Gilbert Williams, Arfon y Dydiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), 118-19.
  3. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.24-5
  4. Record of Carnarvon, tt.22-4.