Rheilffordd Chwarel Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:25, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tramffordd breifat oedd Rheilffordd Chwarel Trefor a wasanaethai Chwarel yr Eifl, neu Chwarel Trefor, i gludo cynnyrch y chwarel at y cei. Daeth tryciau i lawr yr inléin o'r chwarel ac o'r fan honno fe'u tynnwyd gan injan stêm o 1872-3 ymlaen (mor bell â'r cei, ond nid ar y cei ei hun), nes i injans llai petrol a disel gymryd drosodd. Cludai ychydig o fwyn hefyd o gloddfa mwyn haearn dan ddŵr. Roedd yna gangen i bentref Trefor a gludai nwyddau a ddaeth gyda'r llongau i nôl y gwenithfaen, (er i hon gau cyn 1920).

Lled y lein oedd 1'11 1/2", sef y lled cyffredin ar gyfer rheilffyrdd a thramffyrdd chwareli Sir Gaernarfon - ond yn wahanol i led y trac a ddefnyddid yn chwarel Penmaenmawr a ddaeth yn rhan o'r un cwmni.

O dipyn i beth, disodlwyd yr angen am y dramffordd gan lorïau, a hynny rhwng 1951 a 1962.

Ffynonellau

J I C Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire Cyf. 1: West, (1980), tt.268-73.