Carreg Aliortus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:43, 10 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Carreg Aliortus yn hen garreg fedd yn dyddio o'r cyfnod 5ed ganrif -6ed ganrif gynnar, gydag arysgrif mewn llythrennau Lladin, ALIORTUS . ELMETIACO HIC IACET sef "Aliortus, a person from Elmet, lies here". Elmet oedd y deyrnas Geltaidd i'r gogledd-ddwyrain o ble mae dinas Leeds heddiw (ac mae pentrefi yno o hyd sydd wedi cadw'r hen enw - lleoedd megis Barwick-in-Elmet).

Cafwyd hyd i'r garreg tua1865 mewn cae o'r enw Gardd-y-Sant ger Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn, sydd bellach yn rhan o fynwent yr eglwys. Bellach mae wedi ei osod o fewn yr eglwys. Mae'r garreg tua 4'6" o hyd wrth droedfedd o led.

Mae dwy garreg arall nid annhebyg hefyd wedi eu hailosod yn yr eglwys ond nid yw'r arysgrif arnynt mor glir.[1]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.110