Seidin Tan'rallt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:57, 23 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Seidin ar gyfer llwytho llechi oedd Seidin Tan'rallt ar y lein rhwng Pen-y-groes a Thalysarn. Gwasanaethai chwareli ar ochr dde Dyffryn Nantlle, trwy gyfrwng Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef tramffordd a ddefynyddiai ceffylau i dynnu'r wagenni 3' 6" o led.[1] Fe agorwyd cyn 1904 ond fe'i chaewyd rywbryd tua 1930 mae'n debyg. Un neu ddwy drên nwyddau y dydd fyddai galw yno, ac hynny os oedd angen. Roedd y seidin tua 550 llath cyn ben draw'r lein yng Ngorsaf Nantlle.[1]

Cyfeiriadau:

1.W.G.Rear Branch Lines in North Wales (1986), t.154.

  1. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001) tt.36, 177.