Eifion (etholaeth)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:41, 6 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eifion oedd enw yr etholaeth seneddol yn rhan orllewinol y sir rhwng 1885 a 1918. Heblaw am drefi Caernarfon, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ( a oedd yn rhan o etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon, yr oedd etholaeth Eifion yn cynnwys yr holl o Lŷn ac Eifionydd, Uwchwgyrfai a dyffrynnoedd Seiont a Gwyrfai yn Isgwyrfai.

Dim ond dau aelod wnaeth gynrychioli'r etholaeth ar hyd ei oes fer - John Bryn Roberts ac Ellis W. Davies, ill dau yn Ryddfrydwyr. Mae'n ddiddorol i nodi mai George Farren, rheolwr Chwarel yr Eifl, oedd yr ymgeisydd anfuddugol a safodd dan faner yr Unolaethwyr Rhyddfrydol (sef Toriaid mewn popeth ond enw) ym 1886.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia ar etholaeth Eifion, [1], cyrchwyd 6.5.2020