Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:54, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn, ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr gogleddol yn Uwchgwyrfai, mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi Capel Uchaf a Thai'n lôn a mynyddoedd Bwlch Mawr a'r Gurn Ddu, cyn rhedeg i lawr Cwm Coryn i bentref Llanaelhaearn ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, fynyddoedd Yr Eifl.

Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad Cyngor Gwynedd. Roedd yn un o'r AoeddHNE cyntaf i gael eu dynodi - y gyntaf ym Mhrydain oedd Penrhyn Gŵyr, hefyd ym 1956. Dynodir AHNE oherwydd ei gwerth o ran tirwedd nodedig, er mwyn gwarchod y tirwedd hwnnw. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sydd yn gyfrifol am ddynodi ardaloedd o'r fath. Maent yn cael yr un faint o warchodaeth rhag cael eu datblygu â'r parciau cenedlaethol, ac maent o'r un pwysigrwydd â nhw o ran tirwedd, treftadaeth a natur, er nad oes corff ar wahân i ofalu am faterion cynllunio o fewn eu ffiniau, gan ddibynnu am hynny ar y cyngor sir perthnasol. Hefyd nid oes rhaid cael yr un faint o gyfleon ar gyfer hamdden awyr agored sylweddol.[1]

Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectar.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, [1], cyrchwyd 29.4.2020
  2. Gwefan AHNE Llŷn, [2], cyrchwyd 28.4.2020