Dewi Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:22, 17 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o Rosgadfan yw Dewi Jones yn wreiddiol ac ymgartrefodd ym Mhen-y-groes er 1967. Mae'n fotanegydd sydd yn awdurdod ar redyn ac yn hanesydd lleol.

Yn ystod ei oriau hamdden bydd yn cerdded mynyddoedd Eryri gan ymddiddori ym mhlanhigion Arctig-Alpaidd yr ardal, a thrwy hynny ddilyn ôl traed yr hen dywysyddion a’r botanegwyr Cymreig. Arbenigodd yn y gangen hon o hanes lleol a darlithiodd ar y pwnc i nifer o gymdeithasu hanes a llenyddol, yn cynnwys Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Ymddiddorodd hefyd mewn hanes lleol, ac yn arbennig y traddodiad cerddorol a ffynnai yn fwyaf arbennig ymysg hen glochyddion Llanllyfni.

Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle am gyfnod.

Dyfarnwyd iddo radd M.A. er anrhydedd gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac fe’i hurddwyd gan Orsedd y Beirdd.

Rhai o’i gyhoeddiadau:

Llyfrau Llafar Gwlad (25): Tywysyddion Eryri – ynghyd â Nodiadau ar Lysieuaeth yr Ardal. Gwasg Carreg Gwalch, 1993.

Datblygiadau cynnar botaneg yn Eryri – Darlith flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1995.

The Botanists and Guides of Snowdonia, Gwasg Carreg Gwalch, 1996.

Llyfrau Llafar Gwlad (41): Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon. Gwasg Carreg Gwalch, 1998.

Naturiaethwr Mawr Môr a Mynydd. Bywyd a Gwaith J. Lloyd Williams, Gwasg Dwyfor, 2003.