Capel Horeb (W), Pen-y-groes
Adeiladwyd Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1]
Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaeth ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y capel i'r Calfiniaid ym 1847. Arhosai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.[2] Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."[3] Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac ym 1866, cymerwyd yr hen gapel yn ôl ar gost rhwng y pryniant ac atgyweiriadau o ryw £100 ym Mhen-y-groes, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gyda wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[4] Ysywaeth, roedd y capel ar gyrion pellaf Pen-y-groes, a nifer helaeth o'r aelodau'n gorfod cerdded tair milltir un ffordd o Nantlle, Tal-y-sarn a Llanllyfni; nid oedd y genhadaeth mor lwyddiannus ag yr hoffid, ac fe symudwyd y cenhadwr cyflogedig i Lanberis tua 1872 lle byddai, yn ôl y farn gyffredinol, yn cael mwy o lwyddiant. Ym 1875, dechreuwyd symudiad i godi capel newydd mewn man mwy canolog, gydag apêl fawr a blodeuog Hugh Jones, Bathafarn House, Caernarfon ynyr Eurgrawn yn gofyn am gyfraniadau.[5]
Caewyd yr achos yn weddol fuan ar ôl dathlu canmlwyddiant yr adeilad, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma