Lleuar Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:15, 2 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm am y terfyn â Choch-y-big a Lleuar Fawr, Brynaerau, yw Lleuar Bach. Yn y ddeunawfed ganrif daeth David Roberts o blwyf Llanllyfni yn amaethwr yma gyda’i wraig gefnog, Catherine Pughe, aeres Erw Faethlon, Tywyn. Bedyddiwyd eu hunig fab yn John Pughe Roberts, ond erbyn iddo ddilyn ei dad fel ffermwr Lleuar Bach yr oedd yr enw Pughe wedi disodli’r cyfenw Roberts. Y John Pughe hwn oedd tad John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg) (1815-1874), David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg) (1821-1862) ac Eliza a fu farw yn un ar hugain oed.[1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Casglwr,Mawrth 1991, Rhifyn 43, tt.10-11 dan y pennawd Mair Eluned Pritchard ar drywydd ab Hu Feddyg ac Anwylini.