Seidin Chwarel Treflan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:18, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Seidin Chwarel Treflan yn ffurfio lŵp oddi ar brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru rhwng gorsafoedd Waunfawr a Betws Garmon. O seidin y cwmni redai tramffordd o'r un lled ar draws yr Afon Gwyrfai at chwareli llechi Treflan a Garreg-fawr a'r cloddfeydd carreg haearn ar y llethrau gyferbyn. Roedd y tramffordd wedi ei hadeiladu (a wagenni'n cael eu trawslwytho o bosibl ar y brif lein), ond mynnodd y cwmni carreg haearn gael cysylltiad a gosodwyd pwyntiau a set o seidins yma ym 1901-2. Erbyn hyn roedd y chwareli wedi cau, ond fe'u hail-agorwyd yn y 1920au cynnar.

Ffynonellau

J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, (Oakwood, 1988), tt.194-5