Augustus Henry Wheeler

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:18, 19 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Archibald Henry Wheeler (1876-1915) a aned yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog y Swyddfa'r Bost[1], yn reolwr y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn byw ym Mhlas yr Eifl, Trefor. Cyn hynny, erbyn iddo gyrraedd 25 oed, roedd yn reolwr chwarel ithfaen yn St Breward, Cernyw.[2]

Yn ogystal a'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, Cwmni Moduron Caernarfon, a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a Llanaelhaearn.

Roedd yn uwchgapten yng 6ed gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig, ac felly aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. fe'i laddwyd 12 Awst 1915 yn y Dardanelles. Gadawodd wraig a phedwar o blant.[3]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 18811, Lewisham
  2. Cyfrifiad 1901, St Breward
  3. Flintshire Observer, 26 Awst 1915, t.8