George Farren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:12, 20 Chwefror 2020 gan 78.144.89.69 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Farren (1836-1901) yn reolwr Chwarel yr Eifl, Trefor. Fe gafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, ar oleudy Hanois ar Ynys Geurnsey, ac ar strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. O 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).

Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger Trefor yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu Harbwr Trefor lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu pentref Trefor, yr oedd y cyn reolwr Trefor Jones wedi dechrau arno, ynghyd ag ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref. Fo oedd symbylydd a phensaer Eglwys San Siôr, Trefor, a godwyd 1879-81.[1]

Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y Gwylwyr (a oedd yn perthyn i'r un cwmni â Chwarel yr Eifl), yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.

Dywedir iddo fod yn reolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles nhw a lles eu teuluoedd. Bu digon o anghydweld o ran trefniadau ac amgylchiadau gweithio rhyngddo fo a'r gweithlu, ond y gair oedd ei fod yn gallu dod i delerau gyda'i ddynion heb achosi drwgdeimlad ac anfodlonrwydd parhaus. Enwyd stryd yn Nhrefor, Stryd Farren, ar ei ôl.

Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir mor bell â Chlynnog. Roedd yn gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd ar Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i godwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon.

O ran gwleidyddiaeth, roedd yn Unoliaethwr Rhyddfrydol, a safodd yn erbyn J. Bryn Roberts yn Etholaeth Eifion ym 1886, er iddo golli'n drwm.[2]

O ran difyrrwch, reodd yn aelod o'r Clwb Iotio Brenhinol Cymreig, ac yr oiedd ganddo nifer o iotiau, yn cynnwys y Lady Belle a'r Lady Bessie.[3]

Fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn o 1896 ymlaen.

Erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901 o strôc, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.[4] Fe'i ddilynwyd yn chwareli Trefor a Nefyn gan A.H. Wheeler.[5]

Bu'n byw yn nhŷ Plas Trefor pan ddaeth i Ogledd Cymru, ond yn nes ymlaen symudodd i ardal Twtil o dref Caernarfon. Mae rhai ffynonellau'n hawlio nad oedd ganddo fo a'i wraig blant, ond mae Cyfrifiad 1901 yn dangos fod ganddo wraig iau o lawer na fo ei hun, sef Isabel, dynes o Iwerddon a aned ym 1868, a dau o blant William Ignatius G, a aned ym 1892 ym Mangor, a Reginald Joseph a aned ym 1896 yng Nghaernarfon. Fe ddangosir y Cyfrifiad ym 1901 nad oedd neb o'r teulu'n gallu siarad Cymraeg.[6] Erbyn 1911, roedd William yn yr R.A. College, Cirencester,[7] ar ôl cvyfnod yng Ngholeg Stonyhurst. Bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl cyrraedd y ranc o Liwtenant yn y Ffiwsilwyr Cymreig.[8] Arhosai Reginald gyda'i fam yng Nghaernarfon, gan barhau i fyw yn "The Mount", Lôn Priestley, Caernarfon hyd o leiaf 1939, pana nodwyd fod Reginald yn anabl a ddim yn gweithio.[9]

Serch y manylion diymwad hyn am ei deulu, o'r Cyfrifiadau gwahanol, mae'r papur lleol, wrth gyhoeddi ei farwolaeth yn dweud yn blaen:

His wife predeceased him some years ago, and there were no children.[10]

I ychwanegu at y dryswch, mae Cyfrifiad 1901 yn ei ddangos fel preswylydd Trefenai, Twtil, gyda neb o'r teulu'n byw gyda fo; ac yn y Mount, lle mae ei enw'n ymddangos eto ynghyd â'i wraig a'i blant. A oedd gwahanu wedi bod rhwng y gwr a'r wraig? Mewn oes mwy preifat, efallai bod rhywbeth nad yw'r cofnodion yn ei ddatgelu.

Fe ddilynwyd Farren yn chwareli Trefor a Nefyn gan A.H. Wheeler.[11]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Coflein: cofnod ar-lein am Eglwys Trefor [1], cyrchwyd 20.20.2020
  2. Caernarvon & Denbigh Herald, 12 Ebrill 1901, t.5
  3. Caaernarvon & Denbigh Herald, 12 Ebrill 1901, t.5
  4. Prif ffynhonell yr erthygl hon yw Minutes of the Proceedings of the Institution of Civil Engineers, (Cyf.144, 1901, rhan II), tt.314-15 [2] cyrchwyd 20.02.2020
  5. Yr Herald Cymraeg, 24 Awst 1915
  6. Cyfrifiad 1901, RG13/5272
  7. Cyfrifiad 1911
  8. Gwefan War Memorials Register, [3], cyrchwyd 20.02.2020
  9. Rhagolwg Cyfrifiad 1939, Gwefan Find My Past, (RG101/7530D/005/11) cyrchwyd 20.02.2020
  10. Caaernarvon & Denbigh Herald, 12 Ebrill 1901, t.5
  11. Yr Herald Cymraeg, 24 Awst 1915