Edmund Llwyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:05, 10 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Edmund Llwyd farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Fo oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, Morus Glynn, a fabwysiadwyd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu Ystad Glynllifon - ar wahân i unrhwy rwystr gan yr Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, roedd offeiriaid Catholig ddim yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn sicr. Sylwer fod bynnag fod Morus a rhai o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i arddel y cyfenw "Glynn" tra pharhaodd Edmund i ddefnyddio'r enw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, Hwlcyn Llwyd.

Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, LLanrwst pan briododd hi Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594)a etifeddodd y prif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, Llanaelhaearn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172