Thomas Hughes
Gŵr amlwg yn yr ardal oedd Thomas Hughes, Cae Glas, Llanaelhaearn - yn flaenor yng nghapel Y Babell (MC), Llanaelhaearn, yn arweinydd eisteddfodau a chyngherddau, ac yn fardd a enillodd lu o wobrau mewn cyfarfodydd cystadleuol yn y fro.
Gweithiai fel Stiward yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Yn ddiweddarach daeth yn Brif Glerc y chwarel. Gŵr uchel iawn ei barch gan weithwyr a meistri. Hannai o'r un cyff â Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon (Robin Goch), y bardd-arlunydd-bregethwr adnabyddus. Dyma englyn teyrnged a gyfansoddwyd iddo gan Celynydd (John Hugh Jones) y bardd o Fryn Celyn Ucha, Llithfaen.
I Thomas Hughes, Cae Glas
Gŵr hynaws a gâr henwr - a chlodus Fel gwych ysgrifenwr, Gonest waith fe'i gwna'n siŵr ; Pwy sy' fel yr hen bwyswr ?
Cynhyrchodd Thomas Hughes yntau doreth o englynion, ond, ysywaeth, does ond ychydig iawn ohonynt ar gof a chadw. Lluniodd yr englyn canlynol ar gyfer eisteddfod leol ym 1881 - a do, fe enillodd y wobr gyntaf !
Y Trosol
Troi seiliau wna trosolion - y creigiau A graciant yn sgyrsion ; Wrth y brig fe wna wyrth bron, Crea ef ddynion cryfion.