Bedyddwyr Sandemanaidd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:51, 10 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd neu "Fedyddwyr Albanaidd" yn sact a dorrodd i ffwrdd, wedi ffrae fawr dros faterion diwinyddol ymysg Bedyddwyr ym 1795, gyda'r garismataidd a hynod ffwndamentalaidd John R. Jones, Ramoth, Llanfrothen, yn arwain yn rhai a dorrodd i ffwrdd i ffurfio eu henwad annibynnol. Nid oedd yr enwad yn gryf iawn beth bynnag, gydag ond 9000 o aelodau trwy gydol Cymru, a'r rhan helaethaf o ddigon yn y de. Dim ond 8 capel bedyddwyr oedd yn bodoli yng Ngogledd Cymru cyn 1800.

Roedd y Bedyddwyr Sandemanaidd yn Galfinaidd o ran diwinyddiaeth, ond roedd y drefniadaeth yn fwy tebyg i gapeli Annibynnol. Yn nes ymlaen, ymunodd rhai o'u capeli â'r Cambeliaid, neu Eglwysi Crist, ac mewn capel o'r fath y magwyd David Lloyd George.

Unig gapel yr enwad yn Uwchgwyrfai oedd Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni, a agorwyd ym 1798 a'i gau ym 1865 wedi i'r aelodaeth syrthio i 3. Roedd gan y capel ei fynwent ei hun a adweinid fel Mynwent Bara a Chaws.