J.M.W. Turner

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:58, 11 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llyn Nantlle gan Turner, CC-BY-NC-ND (£.0 Unported) Oriel y Tate, Llundain
Llyn Cwellyn gan Turner, CC-BY-NC-ND (3.0 Unported) Oriel y Tate, Llundain

Arlunydd byd-enwog y cyfnod Rhamantaidd o Lundain oedd Joseph Mallord William Turner (1775-1851), a elwid fel arfer yn William Turner gan ei gyfoeswyr. [1] Arferai ddefnyddio pensil, dyfrlliw ac olew fel cyfryngau arlunio. Dechreuodd fel artist realistig ond yn gynyddol aeth ei luniau'n fwy argraffyddol. Hoffai yn bennaf ddylunio golygfeydd trawiadol, a daeth ar daith i Ogledd Cymru ym 1798 ac wedyn ym 1799, gan greu lluniau o lawer o olygfeydd cestyll a mynyddoedd, yn eu mysg o leiaf ddau o fynydd Y Garn o Lyn Nantlle, dyddiedig 1799, sydd yn Oriel y Tate yn Llundain. Ysywaeth, lluniau dyfrlliw heb eu gorffen ydynt, yn wahanol i'r gyfres o luniau gogoneddus o harbwr a chastell Caernarfon. Ymwelodd hefyd â Dyffryn Gwyrfai, ac mae llun hyfryd o Lyn Cwellyn a nifer o frasluniau a wnaed ym 1798 hefyd yn y Tate.[2]


Cyfeiriadau

  1. Erthygl ar Turner yn Wikipedia [1]
  2. Gwefan Oriel y Tate [2]