Syr William Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:10, 18 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Syr William Glynn (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd cyfnod y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon (m. 1607) a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd, a dichon iddo fyw ym Mhlas yng Nglyn nes i'w dad farw ac yntau a'i deulu'n symud i Glynllifon. Wedi hynny, aeth ati i foderneiddio a helaethu'r plasty yno.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus; meibion Thomas, John (Penarlâg wedyn), Richard, William a Trefor Glynn (na wyddys fawr amdanynt), ac Edmund Glynn; a merched, Grace, a briododd ag Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd â Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd â Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Alice, gweddw Rowland Bulkeley, Porthamel, Môn a merch John Conway, Bodrhyddan, Sir y Fflint oedd ei ail wraig, ond ni chawsant hwy blant gyda'i gilydd.

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal, a Môn yn arbennig. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597 ac eto ym 1618. Roedd ar feinciau ynadol Môn a Sir Gaernarfon, ac yn arolygydd coed brenhinol Sir Gaernarfon. Ym 1606, oherwydd ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon, fe gafodd ei wneud yn farchog yn Nulyn.[3] O ran cymryd ochrau yn yr ymrafael cyfreithiol a gwleidyddol a oedd yn gyffredin ymysg teuluoedd y sir, bu'n cefnogi (ac yn derbyn cefnogaeth) ysweiniaid Llŷn ac Eifionydd yn arbennig, er iddo ef a theulu Cefnamwlch, Tudweiliog fod yn wrthwynebwyr cyson i'w gilydd.[4]

Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen o 1578 ymlaen; ac wedyn yn Ysbytai'r Frawdlys (Inns of Court) yn 1586. Yn wir, ef oedd y cyntaf o'r teulu i gael ei addysg yn Lloegr, a'r cyntaf i gael ei ethol i Senedd San Steffan.[5] Er iddo gael addysg uwch Seisnig roedd yn ddyn diwylliedig mewn llenyddiaeth Gymraeg hefyd ac yn barddoni yn y mesurau caeth.[6] Ef, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd crwydrol; erys nifer o gywyddau moliant iddo ef a'i wraig, "Dâm Siân", gan feirdd megis Huw Machno, Rhisiart Phylip, Siôn Phylip a Rhisiart Cynwal. Ar ei farwolaeth, fe ganodd o leiaf 5 bardd farwnad iddo, yn eu mysg Cadwaladr Cesail o Eifionydd, Gruffudd Hafren, Huw Machno, Robert Dyfi a Rhisiart Phylip. Fe'i claddwyd, yn ôl Robert Dyfi, yn Llandwrog.[7]


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3
  3. ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.262
  4. P.B. Hasler, The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603 (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [1], cyrchwyd 18.10.2019
  5. P.B. Hasler, The History of Parliament: the House of Commons 1558-1603 (Llundain, 1981), ar gael ar-lein [2], cyrchwyd 18.10.2019
  6. Glyn Roberts, "The Glynnes and the Wynns of Glynllifon", (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.9), t.28
  7. Iwan Llwyd, Noddwyr y beirdd yn Sir Gaernarfon, traethawd MA (Aberystwyth), 1986, anghyhoedd, tt.96-115