Afon Ceiliog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:49, 9 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Ceiliog yn cael ei henwi yn siartrau Abaty Aberconwy, ac er nad yw'r enw'n ymddangos ar fapiau modern, mae bron y sicr mai dyma'r hen enw am yr afon fach sy'n rhedeg i'r dwyrain o fferm Cwm Ceiliog ym mhlwyf Llanaelhaearn, ac yn ffurfio'r ffin am ychydig rhwng y plwyf hwnnw aa Eifionydd - yn sicr dyna oedd cred Dr Colin Gresham. Roedd yr afon hon yn ffin orllewinol hen drefgordd Cwm.[1] Mae'r Afon ceiliog yn ymuno ag afon fwy ger Pencaenewydd cyn lifo i mewn i Afon Erch.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6